From: Lorena Troughton
Sent: Monday, February 19, 2024 9:37 AM
To: Jewell, Delyth (Aelod o’r Senedd | Member of the Senedd) <
Delyth.Jewell@senedd.cymru>
Subject: Toriadau i gyllideb y Sector Treftadaeth / Heritage Sector budget cuts

 

 

Annwyl Delyth Jewell AS  

                 

Rydym yn ysgrifennu ar ran canghennau Prospect yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac Amgueddfa Cymru i fynegi ein pryderon dybryd am y toriadau arfaethedig i’n cyllidebau.

Fel y gwyddoch efallai, mae pob corff treftadaeth ar hyn o bryd yn wynebu toriadau sylweddol i’n cyllidebau yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod ac o bosib y nesaf. Rydym yn disgwyl toriadau o rhwng 10.5% a 22% i'n Cymorth Grant. Mae hyn yn dilyn dros ddegawd o galedi, tangyllido cronig a thoriadau. Mae hwn yn gyferbyniad llwyr i benderfyniad Llywodraeth yr Alban i fuddsoddi yn y sector treftadaeth drwy ddyfarnu cynnydd o 4.2%.

Er ein bod yn cydnabod bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau ariannol anodd ar hyn o bryd, cyfran gymharol fach o wariant Llywodraeth Cymru yw’r grantiau hyn, sef tua 0.02% yn unig o’u cyllideb gyffredinol. Fodd bynnag, bydd effaith y toriadau hyn yn y gyllideb yn cael effaith drychinebus ar y sector treftadaeth a diwylliant yng Nghymru.

Bydd y toriadau yn arwain at weithlu llawer llai, gan arwain at golli sgiliau ac arbenigedd yn barhaol. Bydd hyn yn effeithio ar allu pob corff i gynnal ein gwasanaethau a'n gweithgareddau, gan o bosib peryglu cenadaethau'r Siarteri Brenhinol.

Mae'r sgiliau, arbenigedd a'r wybodaeth arbenigol hyn yn hanfodol i gyflawni swyddogaethau sylfaenol o ofalu am, diogelu a darparu mynediad i gasgliadau cenedlaethol, treftadaeth Cymru a chyflwyno'r wyddoniaeth sy'n sail i gadwraeth natur yng Nghymru. Hebddynt, efallai na fydd hyn yn bosibl mwyach.

Mae’r tri chorff hefyd yn darparu gwasanaethau hanfodol eraill ac yn gwneud cyfraniadau amhrisiadwy i fywyd yng Nghymru. Rydym yn darparu mynediad am ddim i wybodaeth; trwy ddigwyddiadau a gweithgareddau, rydym yn cyfrannu at wella lles ac iechyd; ac mae ein gweithgareddau gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion yn cyfoethogi addysg yng Nghymru. Rydym hefyd yn cyfrannu’n uniongyrchol at ddatblygiad economaidd Cymru drwy ddenu miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn.

Ymhellach, bydd y toriadau yn peryglu ein gallu i ymgymryd â llawer o weithgareddau pwysig sy’n cyfrannu at nodau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru ei hun, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), Deddf yr Amgylchedd (Cymru) a Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Cymru a'r rhaglen lywodraethu.

Heb ymyrraeth brys, gall treftadaeth a diwylliant, yn ogystal â gwytnwch amgylcheddol yng Nghymru, gael eu difrodi y tu hwnt i’w hachub. Ysgrifennwn atoch felly, i ofyn am eich cefnogaeth i annog Llywodraeth Cymru i wrthdroi eu penderfyniad i dorri cyllid ac i’n helpu i achub treftadaeth a diwylliant yng Nghymru.

 

Julian Carter (Cadeirydd Amgueddfa Cymru Adran Treftadaeth)

Katherine Slade (Ysgrifennydd Amgueddfa Cymru Adran Treftadaeth)

Megan Ryder (Cadeirydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru)

Meilyr Powel (Ysgrifennydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru)

Siôn England (Cadeirydd Llyfgell Genedlaethol Cymru)

Lorena Troughton (Ysgrifennydd Llyfgell Genedlaethol Cymru)